Croeso

Fanc Bwyd Caerfyrddin: Rydym yn gwahodd cyfraniadau i Fanc Bwyd Caerfyrddin. Mae yn arferol i ni ddod a bwyd a’i rhoi  wrth y Bedyddfan, neu rhoi arian at yr achos a’i rhoi i’r Wardeniaid. Gobeithir y bydd y rhai sydd am gyfranu at y Banc Bwyd yn barod i wneud hynny ar lein, neu rhoi cyfraniadau i Jean a Huw 275222 neu Margaret a Peter 275479. Yn y dyddiau anodd yma mae yn fwy pwysig nag erioed I gefnogi teuluoedd sydd angen ein help.

 Cymorth yn ystod cyfyngiadau COVID – 19

Os ydych yn byw yn ardal Llanddarog a Phorthyrhyd, rhowch wybod os gwelwch yn dda os ydych am gymorth yn ystod y cyfnod o hunan-ynysu trwy ffonio 01267275222 neu ebostio JEAN, gan rhoi eich henw, rhif ffȏn a’ch cyfeiriad.

Fe fyddem hefyd yn awyddus i glywed wrth rhai sy’n gallu cynnig cefnogaeth i gymdogion a ffrindiau i gysylltu gyda JEAN. Gallai hyn fod yn ffonio rhywun bob dydd, siopa neu gasglu presgripsiynau. Rhowch eich enw, rhif ffȏn a’ch cyfeiriad os gwelwch yn dda gan ddweud sut yr ydych yn barod i helpu.

Mae siopau lleol Llanddarog a Phorthyrhyd yn cymeryd archebion ar y ffon fel y gallwch eu casglu gyda char ac fe fyddant yn eu dodi yn y cist, neu y maent yn barod i’w dosbarthu yn lleol. Cysylltwch a’r canlynol: Siop Llanddarog 01267 275227, Siop Porthyrhyd  01267 275241

Croeso i St Twrog, Eglwys Plwyf Llanddarog.

Saif yr eglwys ar y bryn gyda’i thwr pigfain yn amlwg i bawb sy’n teithio ar y heol brysur, yr A48, rhwng Cross Hands a Chaerfyrddin, a nepell o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Llanddarog, enwog iawn ydwyd – yn uchder

Dy glochdy’th neillduwyd,
Caer hirsyth yn creu arswyd,
O Sir Gar i’r sêr a gwyd
(Anhysbys)

Yn y fangre hon mae addoliad a gweddi wedi eu hoffrymu a chariad Duw yng Nghrist Iesu wedi ei gyhoeddi ers dyddiau y Brenin Hywel Dda, yn y ddegfed ganrif (Credir bod y Darog, yn Llanddarog yn un ô’i swyddogion) ond ymhellach yn ol na hynny I’r chweched ganrif, Oes y Seintiau, pan y bu i Twrog, un o’r seintiau Celtaidd sefydlu ei gymuned – Y Llan – ar yr ucheldir rhwng Cwm Gwendraeth a Dyffryn Tywi.

Mae’r Addoliad a’r weddi, y tystio, y gwasanaethu a’r gyfeillach yn parhau hyd heddiw ac yn foddion gras i’r gynulleidfa ffyddlon.

Slawer dydd roedd yna dollen gyswllt rhwng y plwyf a’r diwydiant glo yng Nghwm Gwendraeth ond erbyn hyn mae’n bywyd a’n haddoliad yn adlewyrchu cymeriad gwledig ein plwyf.

Gwahoddwn chi’n dwymgalon I ymweld â ni yma yn St Twrog. Mae yna ddau wasanaeth bob Sul, un yn yr iaith Gymraeg a’r llall yn y Saesneg. Rydyn ni’n darparu ar gyfer pawb.

_____________________

Eglwys St Twrog yw Eglwys Plwyf Llanddarog ond ers 1966 ymunwyd ni â phlwyf cyfagos Llanarthne. Mae’r plwyf Llanarthne a Llanddarog yn Esgobaeth Tyddewi.